Fferm Ifan

Group of highland cattle grazing the Migneint common on a sunny day, Ysbyty Ifan Conwy

Mae grŵp o ffermwyr yn archwilio ffyrdd newydd o ffermio comin unigryw er budd natur a phobl.

Grŵp o 11 o denantiaid ffermydd ar ystâd Ysbyty Ifan yw Fferm Ifan. Mae gan y ffermwyr hawliau pori ar y Migneint, un o’r darnau mwyaf o orgors yng Nghymru, a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig.

Mae’r grŵp yn gweithio ar gynllun ar raddfa’r dirwedd i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy ac effeithiol. Caiff ei ariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Sut mae Fferm Ifan yn adfer amgylchedd iachus a mwy naturiol?

Fel rhan o’r gwaith, mae’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) yn cynnig cyngor ar waith plannu sy’n sensitif i’r dalgylch. Byddant yn plannu rhagor o goed tir amaeth a gwrychoedd ar lannau nentydd i helpu i ddiogelu’r cynefinoedd, arbed y pridd rhag erydu a lleihau perygl llifogydd yn nes i lawr yr afon.

Bydd gwaith blocio ffosydd ar y Migneint yn parhau ac yn helpu i godi lefel y trwythiad ac i storio carbon. Bydd hefyd yn lleihau perygl llifogydd yn Nyffryn Conwy.

Er mwyn gwella ansawdd y dŵr a helpu i atal y pridd rhag erydu ar dir amaethyddol, bydd y grŵp yn creu nifer o badiau porthi ar gyfer y da byw a mannau i groesi’r nentydd. Caiff y pridd ei ddadansoddi i gadw golwg ar yr ansawdd.

Yn ogystal, mae’r ffermwyr yn cymryd rhan mewn treialon pori er mwyn denu rhagor o fioamrywiaeth a bywyd gwyllt i’r mawndir. Fel rhan o’r treialon pori, cyflwynwyd gwartheg i’r Migneint am y tro cyntaf o fewn cof pobl.

Gwartheg am bori'r Migneint
Welsh Black cattle and Highland cattle at Ysbyty Ifan, Conwy
Gwartheg am bori'r Migneint

Ac mae yna gynlluniau i geisio annog rhagor o gornchwiglod a gylfinirod i fagu’n llwyddiannus yn yr ardal.

Pa gymorth oedd ei angen i gyflawni hyn?

Bu sicrhau Cynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn hanfodol er mwyn gwneud y gwaith i wella’r ecosystemau ar raddfa’r dirwedd. Ariannwyd hyn gan ‘Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig’. Mae’r grŵp yn cydweithio’n agos hefyd â nifer o bartneriaid yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr RSPB, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Bangor a Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu syniadau ac i ddysgu oddi wrth arbenigedd a phrofiad y partneriaid.

Beth nesaf?

Fel rhan o’r cynllun, bydd Fferm Ifan yn edrych i mewn i ddatblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion heblaw bwyd sy’n deillio o reoli tir mewn ffordd gynaliadwy – dŵr glân, araf, storio carbon a chyfoeth o fioamrywiaeth. Prif nod y grŵp yw cydweithio i sicrhau bod cenedlaethau nesaf y teuluoedd amaethyddol traddodiadol hyn yn gallu parhau i ffynnu yn y gymuned Gymraeg, fynyddig hon.