Golygfeydd, cerdded ac archeoleg ar yr Eifl

Looking at Yr Eifl from Dinas Dinlle beach

Mwynhewch forweddau godidog, bywyd gwyllt rhyfeddol a bryngaerau cynhanesyddol anhygoel ar bwynt uchaf y penrhyn.

Mynydd ar lannau gogleddol Pen Llŷn yw’r Eifl (ond nid yw’n gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Mae'n cynnwys tri chopa, sy’n gwbl ar wahân. Gelwir y copaon hefyd yn 'the Rivals' yn Saesneg, ond ffurf wedi’i Seisnigeiddio ar yr Eifl yw hon, sy'n golygu 'y ffyrch' neu 'y brasgamau’ yn Gymraeg.

Tri chopa

  • Tre'r Ceiri, 485 metr (1,591 tr)
  • Garn Ganol, 564 metr (1,850 tr)
  • Garn For, 444 metr (1,457 tr)

Tre'r Ceiri: Tref y cewri

O’r holl safleoedd Oes Haearn yng Nghymru, bryngaer ysblennydd Tre'r Ceiri yw’r un y dylai pawb ei weld. Mae’r enw’n dalfyriad o 'Tref y Cewri'. Dywedir yn aml mai hon yw’r fryngaer fwyaf trawiadol yng ngogledd Cymru.

Ychydig o safleoedd cynhanesyddol Cymru sy’n cydio mor gadarn yn y dychymyg. Saif y lle arbennig hwn dros 450 metr uwchlaw lefel y môr, ac mae’n amgáu gweddillion amlwg o rhyw 150 o dai cerrig. Mewn mannau mae rhagfuriau cerrig sylweddol wedi goroesi bron i’w huchder llawn.

Mae carnedd gladdu sylweddol o'r Oes Efydd gynnar ar y copa, sydd wedi’i chadw a’i pharchu o fewn y fryngaer ddiweddarach. Mae'r golygfeydd yn eithriadol hefyd.

Garn Ganol: Y pwynt uchaf ar y penrhyn

Mae'r daith i fyny i Garn Ganol wedi’i rhannu yn dri cham: llethrau glaswelltog, yna tir talpiog creigiog, ac yn olaf llethrau creigiog rhydd serth ger y copa. Mae’r golygfeydd o’r copa’n odidog.

Ar ddiwrnod clir, gallwch weld draw at Ynys Manaw, Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon ac Ardal y Llynnoedd, a mwynhau ehangder cyfan Bae Ceredigion hefyd.

Garn For: cerrig Olympaidd

Mae'r bryn hwn wedi’i gloddio’n helaeth. Defnyddiwyd gwenithfaen ohono i balmantu strydoedd yn nhrefi a dinasoedd Swydd Gaerhirfryn ac fel meini cwrlo yn y Gemau Olympaidd.

Ewch i gerdded

Mae cerdded i fyny'r Eifl yn eithaf anodd mewn ambell i le, felly byddwch yn ofalus. Mae'n bwysig gwisgo dillad sy’n addas i gerdded mynydd oherwydd er nad yw’r Eifl yn uchel iawn gall y tymheredd a’r gwynt fod yn heriol iawn ar brydiau.

Nant Gwrtheyrn

Ar y llethrau gorllewinol, o dan gysgod bygythiol Graig Ddu (clogwyn ar lethr gorllewinol Garn Ganol), mae ‘na ddyffryn bach sy’n arwain i lawr at y môr. Dyma Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol hudolus, sydd bellach yn gartref i ganolfan dysgu Cymraeg. Yma cewch ddarganfod chwedlau a hanes mwyaf cyfareddol Cymru.

Golygfeydd o’r mynyddoedd

Mae golygfeydd trawiadol o’r Eifl draw at arfordir de-orllewin Ynys Môn ac Ynys Llanddwyn. Mae hefyd yn bosibl gweld y tri chopa o brif fynyddoedd gogledd-orllewin Eryri.