
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Dewch o hyd i'r llefydd sy'n cynnal digwyddiadau Haf o Chwarae yng Nghymru dros wyliau'r haf.
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
Trefnwch y picnic perffaith yng Nghymru a gwledda yn yr awyr iach mewn ystâd fawreddog, ar draeth tlws neu mewn hafan goediog i fywyd gwyllt, gyda golygfeydd godidog o awyr agored Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Mae enfys o liwiau yn disgwyl i gael ei darganfod yn ein gerddi ledled Cymru, a gydag arddangosfeydd cystal â dyddiau tecaf yr haf, dyma ein ffefrynnau ni.
Lliwiau pastel golau a choch tanllyd, glynnoedd dan gysgod a therasau heulog, mae’r cyfan i’w gael ym Modnant. Ewch am dro drwy’r terasau persawrus sy’n orlawn o blanhigion, archwiliwch liwiau hafaidd cynnes y maestir, neu ymlaciwch ymysg y llu o flodau enfys purlas yn y glynnoedd ger yr afon.
Mae gerddi Dyffryn o hyd yn hardd, ond maent yn odidog yn ystod yr haf. Gyda dahlias llachar y Cwrt Palmantog, gwelyau blodau ysblennydd ar yr Ochr Ddeheuol, a gwelyau blodau’r Borderi Blodeuog sydd wedi’u hadfer yn hardd, mae llu o liwiau hafaidd i’w gweld ym mhob twll a chornel.
Mae degau o forderi blodeuog i’w harchwilio yng Nghastell Powis. O ddeiliach dramatig y Border Trofannol a phlanhigion cyfoethog y Terasau Eidalaidd, i’r blodau gwyllt llachar a hocys tal yr Ardd Ffurfiol; mae enfys o liwiau’r haf i’w chanfod.
Mwynhewch daith gydag arwyddion trwy ystâd 1,200 erw Erddig yn Wrecsam, sy’n eich arwain heibio’r nodwedd dŵr Cwpan a Soser enwog.
Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi o gwmpas gardd hyfryd 5.5 erw Castell y Waun ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn a choetsis.
Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.
Darganfyddwch natur a bywyd gwyllt ar lwybr glan llyn ystâd Tŷ Tredegar. Gwyliwch adar yn nythu ar y llyn a rhyfeddwch at yr olaf o’r Rhodfeydd Derw yn y parc. Yn addas i’r teulu i gyd.
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Dysgwch am ein llwybrau aml-ddefnydd yn y mannau rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru sy’n addas ar gyfer pramiau ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai gyda chymorth symudedd.
Darganfyddwch y dihangfa ramantus berffaith yng Nghymru gyda theithiau cerdded golygfaol drwy'r lleoedd trawiadol yr ydym yn gofalu amdanynt. O goetiroedd heddychlon ac arfordiroedd dramatig i erddi hardd, mae'r lleoliadau Ymddiriedolaeth Genedlaethol hyn yn cynnig lleoliad delfrydol i fwynhau natur a chreu atgofion parhaol gyda'ch anwylyd.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.
Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.
Derbyniodd Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yng Nghymru hwb ariannol heddiw o £1.1 miliwn i helpu sicrhau bod pobl sy’n byw ar draws Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu mwynhau byd natur a mannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi.
Yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i greu noddfa hanfodol ar gyfer rhywogaethau cacwn sy’n dirywio’n gyflym, gan gynnwys un o rywogaethau prinnaf y DU, y Gardwenynen Feinlais (Bombus sylvarum).
Dewch i wybod am Eisteddfod yr Urdd 2027 a fydd yn Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd.
National Trust Cymru have showcased exciting new additions at Tŷ Mawr Wybrnant aimed at enhancing the overall visitor experience at the historic site.
O ddydd Gwener 23 Mai, bydd Gerddi Dyffryn ger Caerdydd yn cynnal Helios, gwaith celf syfrdanol saith metr o hyd o'r haul gan yr artist o fri, Luke Jerram.
Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu Cofrestr Genedlaethol o Isrywogaethau Coed Afal o Gymru sy’n dynodi 29 o wahanol fathau o afalau o Gymru er mwyn helpu i ddiogelu treftadaeth afalau gyfoethog Cymru.
Chwarelwyr yn symud o’r chwarel i’r castell fel rhan o raglen ailddatblygu fawr Amgueddfa Lechi Cymru.
Mae tenantiaid newydd un o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng nghalon Eryri wedi eu cyhoeddi wedi iddynt ennill ail gyfres Channel 4 National Trust: Our Dream Farm gyda Matt Baker.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.
Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.
Mwynhewch oriau agor estynedig ym Mhlas Newydd | Enjoy extended opening hours at Plas Newydd
Ydych chi'n barod i gael eich ysbrydoli a gadael i'ch dychymyg redeg yn wyllt? | Are you ready to be inspired and let your imagination run wild?
Come to Dyffryn Gardens this summer holidays to hop, skip and jump your way to being the Dyffryn champion.
Oriau estynedig pob dydd Mawrth adeg gwyliau'r haf | Extended hours every Tuesday during summer holidays
Mwynhewch ddynameg ioga mewn lleoliad awyr agored hardd / Enjoy dynamic yoga in a beautiful outdoor location.
Come and learn about Chirk Castle's bat population on this guided walk led by our Ranger team who will talk all about the bats' habitat, food and the conservation challenges we face.
Rhowch gynnig ar 50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 a ¾ wrth inni nesáu at dymor yr Hydref a’r Gaeaf. / Have a go at 50 things before you're 11 and 3/4 as the season moves into Autumn and winter.
Yn Ardd Bodnant dros yr haf! Helpwch Wallace & Gromit ar y llwybr Realiti Estynedig anhygoel hwn! | At Bodnant Garden this summer! Help Wallace & Gromit in this cracking new Augmented Reality trail!
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)