Tair sgwrs gyhoeddus ddiddorol, Cymro o’r Wladfa yn canu tangos, a, ie, pregeth gen i. Dyma ddechrau egnïol i sbarduno ein rhaglen gyffrous yn y Brifwyl.
Pum bloedd uchel ar y gragen gonc – roedd yn atseinio o gwmpas coridorau pŵer yn y Senedd gerllaw – ac…anadl ddofn…sefais i fyny efo’r meicroffon o flaen cannoedd o Eisteddfodwyr yn mynd a dŵad, a chriw bach oedd wedi ymgynnull am y sgwrs. Roedd o’n ddilys iawn mai yn y man hwn roeddwn i’n rhannu fy atgofion o’r fordaith o gwmpas arfordir Cymru, am mai yma tynnwyd fy llun ar ddiwedd y daith 450-milltir, 14-diwrnod yn ôl yn 2015. A pha wersi wnes i ddysgu am dranc ein harfordir? Un: mae’n traethau ni wedi llygru gyda phlastig, ac mae rhaid i ni rhywbeth amdano; dau: mae’n rhaid i ni fod yn well am addasu at lifogydd ac erydiad a thri: mae datblygiad llechwraidd yn dal i amharu ar harddwch a bywyd gwyllt ein harfordir, ac mae rhaid i ni gyd wneud mwy i gefnogi mudiadau cadwraethol fel yr Ymddiriedolaeth i’w hamddiffyn.
Nesa, dyma Guto Roberts, Swyddog Cwm Idwal, yn ymddiheuro am geisio crynhoi 350-miliwn o flynyddoedd o hanes Cwm Idwal i mewn i sgwrs pum munud. Wedi dweud hynny, wnaeth o ymdrech glodwiw o ddangos grymoedd aruthrol llosgfynyddoedd a phlygu geologaidd wrth afael mewn llyfryn a’i blygu i ryw fath o fersiwn bychan o Gwm Idwal. Aeth ymlaen i esbonio fod y llyfryn hwn yn becyn addysg newydd i Gwm Idwal, ac roedd o am lansio fo’n swyddogol yma heddiw. Rwy’n ffyddiog y bydd y llyfryn gwych hwn – a’i gymheiriaid ar-lein – yn fendith i’r miloedd o grwpiau sy’n ymweld â’r Cwm I ddysgu am ei ryfeddodau.
Wedyn ar y beic i’r oriel fendigedig yn BayArt, deg munud o’r Eisteddfod, i gyflwyno trafodaeth rhwng y darlledwr adnabyddus Dei Tomos a Chyfarwyddwr Cymru, Justin Albert. Meddyliwch am rywbeth rhwng Frost/Nixon a Michael Parkinson, a chewch lun o sgwrs ysbrydoledig. Roedd angerdd Justin at dreftadaeth Cymru yn amlwg, hefyd felly ei sylwadau o faint o waith oedd eto i’w wneud nes y bod yr Ymddiriedolaeth yn berthnasol i bawb yng Nghymru.
Ac wedyn, i ymlacio o’r holl drafodaeth ddwys, cawsom awr o ganu hwyliog yn ôl wrth y stondin, gyda Chymro o’r Wladfa, René Griffiths, fel Gaucho go-iawn, efo’i sgidiau cowboi, clogyn a gitâr Sbaenaidd