
Bu fferm Carrog yn brysur fel cwch gwenyn yn ddiweddar, gyda dros 100 o wirfoddolwyr, o blant 8 oed i bensiynwyr, yn dod draw i roi help llaw. Diolch yn fawr iawn i – Ysgol Penmachno, Ysgol Ysbyty Ifan, Ysgol Eifionydd, Ysgol y Moelwyn a Choleg Llandrillo, Cymdeithas Eryri a Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, Cwm Penmachno, sydd wedi bod yn cymryd rhan.
Hau hadau at y dyfodol
Plannwyd cant a hanner o goed helyg ar lan yr afon. Byddant yn tyfu i roi cysgod i bysgod sy’n silio a lle hwylus i leision y dorlan wylio am eu prae wrth hela.
Bydd 550 metr o blanhigion gwrychoedd, yn cynnwys drain gwynion, drain duon, gwifwrnwydd y gors a chelyn, yn adfer rhwydwaith o goridorau bywyd gwyllt ac yn creu lloches i anifeiliaid y fferm yn ystod tywydd oer, garw y gaeaf.
Plannwyd cyfuniad o goed poplys duon prin, coed derw ac aethnenni yn y cae hefyd. Bydd y rhain yn help i ddarparu cynefinoedd oddi ar y ddaear, yn ogystal â chysgod i anifeiliaid y fferm yn nhywydd poeth yr haf.
Plannwyd cyfanswm o bron 5000 o goed a phlanhigion gwrychoedd ar y fferm dros ddim ond un gaeaf.
Temtio bywyd gwyllt i ymgartrefu
Bu Grŵp Gweithredu Cymunedol Cwm, Cwm Penmachno yn brysur yn creu cartrefi newydd i nifer o greaduriaid arbennig. O wâl dyfrgwn bum-seren gyda golygfeydd hardd o’r afon i nifer o gychod gwenyn o fewn pellter teithio hwylus i’n dôl blodau gwylltion sydd newydd ei hadu. Bydd Rhyd y Creuau yn brysur yn cadw golwg ar y fferm a’r afon i weld faint o alw sydd am y cartrefi newydd cyfforddus hyn.
Creu lle arbennig i’r gymuned
Mae Ysgol Penmachno wrthi’n cynllunio llwybr cymunedol ar draws y fferm. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod llwybr oddi-ar-y-ffordd rhwng cymunedau Cwm Penmachno a Phenmachno. Fel rhan o’r prosiect, bydd y disgyblion yn cynllunio’r nodwyr llwybr a’r arwyddion ‘cŵn ar dennyn’.
Bydd y llwybr yn lle i’r gymuned leol gerdded trwyddo a gweld canlyniadau eu holl ymdrechion. Cânt weld sut mae eu coed ‘nhw’ yn tyfu, a gwrando ar yr adar yn trydar a'r gwartheg bodlon yn brefu gyda sŵn afon iach yn byrlymu yn y cefndir.
Gwarchodwr i Garrog
Yn yr haf, bydd ffermwr yn symud i mewn i Garrog. Bydd yn gofalu am y tyddyn gan fagu defaid a gwartheg ar ddeiet sy’n cynnwys cyfuniad cyfoethog o laswelltydd a blodau gwylltion, gan ddefnyddio patrymau pori a fydd yn rhoi cyfle i’r caeau ffynnu. Felly, gall y gwaith a gychwynnwyd gan y gymuned barhau am flynyddoedd lawer i ddod.